2016 Rhif 223 (Cy. 87)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â hysbysiadau o dan adrannau 37, 38 a 39 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) a sut a phryd y mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) i gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan adran 40(1) o Ddeddf 2015.

Mae rheoliad 2 yn darparu mai’r cyfnod hwyaf y caniateir iddo gael ei bennu mewn hysbysiad o dan adran 37 o Ddeddf 2015 (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd) yw blwyddyn.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i’w dilyn gan CCAUC mewn cysylltiad â thynnu’n ôl hysbysiad o dan adran 37 o Ddeddf 2015. Pan fo CCAUC yn tynnu hysbysiad o’r fath yn ôl, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i Weinidogion Cymru ar unwaith.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan adran 38 o Ddeddf 2015 (dyletswydd CCAUC i dynnu cymeradwyaeth yn ôl). Effaith rheoliad 5(a) yw bod adrannau 42 i 44 o Ddeddf 2015, sy’n ymwneud â’r weithdrefn rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol o dan y Ddeddf honno, yn gymwys mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad gan CCAUC o dan adran 38. Effaith rheoliadau 5(b) a 6 yw bod rheoliadau 2 i 10 o Reoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015 hefyd yn gymwys, gydag addasiadau, i roi hysbysiadau o’r fath.

Mae rheoliadau 7 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae CCAUC i gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan adran 40(1) o Ddeddf 2015. Mae’r adran honno yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC, pan fydd yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39 o Ddeddf 2015, roi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru a chyhoeddi’r hysbysiad. Pan fo CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau hynny, mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru ar unwaith a chyhoeddi copi o’r hysbysiad ar ei wefan o fewn saith niwrnod i’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer pryd y mae hysbysiad o’r fath i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi gan CCAUC at ddibenion rheoliad 7 ac mae rheoliadau 9 a 10 yn nodi am ba hyd y dylid cyhoeddi hysbysiadau o’r fath ar wefan CCAUC.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2016 Rhif 223 (Cy. 87)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016

Gwnaed                             23 Chwefror 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       25 Chwefror 2016

Yn dod i rym                        28 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 37(7)(a), 37(7)(c), 38(2)(b), 38(3) a 40(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau, Gweithdrefn a Chyhoeddi) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2016.

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 ac mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o’r Ddeddf honno; a

(b)     ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015([2]).

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Y cyfnod hwyaf y caniateir iddo gael ei bennu mewn hysbysiad o dan adran 37 o Ddeddf 2015

2. Y cyfnod hwyaf y caniateir iddo gael ei bennu mewn hysbysiad o dan adran 37 yw blwyddyn.

Y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â thynnu’n ôl hysbysiad o dan adran 37 o Ddeddf 2015

3.(1)(1) Caiff CCAUC dynnu’n ôl hysbysiad a roddir o dan adran 37 drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i gorff llywodraethu’r sefydliad.

(2) Rhaid i hysbysiad tynnu’n ôl o dan baragraff (1)—

(a)     bod yn ysgrifenedig;

(b)     bod wedi ei ddyddio; ac

(c)     hysbysu corff llywodraethu’r sefydliad am y rhesymau dros dynnu’n ôl yr hysbysiad o dan adran 37.

(3) Y dyddiad y caiff hysbysiad o dan adran 37 ei dynnu’n ôl yw dyddiad yr hysbysiad tynnu’n ôl.

4. Os yw CCAUC wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o dan reoliad 3, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i Weinidogion Cymru ar unwaith.

Y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan adran 38 o Ddeddf 2015

5. Yn ddarostyngedig i reoliad 6, mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys mewn cysylltiad â rhoi hysbysiad o dan adran 38—

(a)     adrannau 42 i 44; a

(b)     rheoliadau 2 i 10 o Reoliadau 2015.

6. Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2015 i gael ei ddarllen fel pe bai—

(a)     “hysbysiad o dan adran 38 o Ddeddf 2015” wedi ei roi yn lle “hysbysiad neu gyfarwyddyd a bennir yn adran 41(1) o Ddeddf 2015”; a

(b)     y geiriau “neu’r cyfarwyddyd” ym mharagraffau (a) i (c) wedi eu hepgor.

Cydymffurfedd gan CCAUC ag adran 40(1) o Ddeddf 2015

7. Os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39, rhaid iddo—

(a)     rhoi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru ar unwaith; a

(b)     cyhoeddi copi o’r hysbysiad ar ei wefan o fewn y cyfnod o saith niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i gorff llywodraethu’r sefydliad.

8. At ddibenion rheoliad 7—

(a)     mae hysbysiad o dan adran 37 neu 39 i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi gan CCAUC yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau 2015; a

(b)     mae hysbysiad o dan adran 38 i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi gan CCAUC yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau 2015 fel y’i cymhwysir, gydag addasiadau, gan reoliadau 5(b) a 6 o’r Rheoliadau hyn.

9. Mae copi o hysbysiad o dan adran 37 a gyhoeddir ar wefan CCAUC o dan reoliad 7(b) i aros ar y wefan honno tan y cynharaf o—

(a)     diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 37(2); neu

(b)     dyddiad yr hysbysiad tynnu’n ôl a roddir gan CCAUC o dan reoliad 3 i gorff llywodraethu’r sefydliad mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwnnw.

10. Mae copi o hysbysiad o dan adran 38 neu 39 a gyhoeddir ar wefan CCAUC o dan reoliad 7(b) i aros ar y wefan honno tan y dyddiad y byddai’r cyfnod yr oedd y cynllun ffioedd a mynediad perthnasol yn ymwneud ag ef wedi dod i ben oni bai am yr hysbysiad.

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

23 Chwefror 2016

 



([1])           2015 dccc 1.

([2])           O.S. 2015/1485 (Cy. 164).